Rhif y ddeiseb: P-06-1242

Teitl y ddeiseb: Gwella Gofal Iechyd Endometriosis yng Nghymru

 

Geiriad y ddeiseb: Mae endometriosis yn difetha bywydau menywod a’u teuluoedd sy'n byw yng Nghymru gydag 1 o bob 10 yn dioddef o'r cyflwr.
Nid yw achos endometriosis yn hysbys, nid oes gwellhad, yr amser diagnosis ar gyfartaledd yw wyth mlynedd a hanner ac mae rhestr aros chwe blynedd am driniaeth ar y GIG.

Mae'r diffyg dealltwriaeth amlwg o'r cyflwr yn cael effaith niweidiol ar gymdeithas ar bob lefel. Felly mae angen blaenoriaethu cyllid i sicrhau cydraddoldeb gofal iechyd yng Nghymru.

 

Rhagor o fanylion

Amlygodd adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2018   pa mor fawr yw’r broblem a wynebir gennym gydag adnoddau’n cael eu gwastraffu a’r niwed sy'n cael ei achosi ar hyn o bryd i unigolion sy'n dioddef o endometriosis. Er i’r canfyddiadau ddangos effeithiau ar ofal iechyd, addysg, lefelau economaidd, ariannol a chymdeithasol o fewn cymdeithas, nid yw'r mwyafrif o’r argymhellion wedi'u mabwysiadu ac mewn sawl ardal mae pethau wedi gwaethygu i ddioddefwyr endometriosis.

 

 


1.        Cefndir

Mae endometriosis yn glefyd lle mae meinwe sy’n debyg i leinin y groth yn tyfu mewn mannau eraill yn y corff. Mae endometriosis yn glefyd sy'n effeithio ar 1 o bob 10 o fenywod. Mae symptomau cyffredin yn cynnwys poen pelfig cronig, misglwyfau poenus, poen yn ystod rhyw neu ar ôl hynny, troethi a symudiadau coluddyn poenus, blinder ac anffrwythlondeb.

Mae amseroedd aros hir ar gyfer gofal endometriosis yng Nghymru. Yn ôl Endometriosis UK, mae menywod y mae angen gofal arbenigol arnynt, fel llawdriniaeth gymhleth mewn canolfan arbenigol ar gyfer endometriosis, yn cael eu hysbysu mewn rhai achosion y bydd gofyn iddynt aros am nifer o flynyddoedd i gael y llawdriniaeth honno.

Gall aros yn hir am lawdriniaeth gael effaith negyddol ar ansawdd bywyd person, gan gynnwys dioddef poen cronig parhaus a symptomau gwanychol sy'n golygu bod rhai yn methu â gweithio.

 

2.     Camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru

Yn dilyn adroddiad gan yr elusen Triniaeth Deg i Ferched Cymru (FTWW) ar ofal endometriosis yng Nghymru, sefydlodd Prif Weithredwr GIG Cymru Grŵp Gorchwyl a Gorffen i adolygu gwasanaethau endometriosis.

Cyflwynodd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Endometriosis ei adroddiad i Lywodraeth Cymru yn 2018. Daeth i’r casgliad nad oedd y gwasanaethau a ddarperir i fenywod a merched ag endometriosis yn diwallu eu hanghenion, gan arwain at ddiffyg mynediad at ofal priodol ledled Cymru.

Mewn llythyr at y Pwyllgor Deisebau, dywedodd Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: "Er gwaethaf ymdrechion i newid pethau, rwyf hefyd yn ymwybodol bod diffyg dealltwriaeth ynglŷn ag endometriosis ymhlith rhai gweithwyr iechyd proffesiynol o hyd, a bod y ddarpariaeth bresennol, ar adegau, yn islaw i’r hyn yr ydym ni, a defnyddwyr gwasanaeth yn ei disgwyl."

Mae byrddau iechyd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau gynaecoleg ac am reoli gofal endometriosis, a hynny’n unol â chanllawiau NICE.

Yn ei llythyr, noda’r Gweinidog: "Ym mis Awst 2018, ysgrifennodd swyddogion Llywodraeth Cymru at y byrddau iechyd gan ofyn iddynt am sicrwydd bod gwasanaethau yn cael eu darparu yn unol â chanllawiau NICE ar endometriosis. Cadarnhaodd yr holl fyrddau iechyd eu bod yn cydymffurfio â’r canllawiau."

Mae grŵp a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, sef y Grŵp Gweithredu ar Iechyd Menywod, wedi cael dyraniad o £1 miliwn y flwyddyn i gefnogi ei weithgareddau, gan gynnwys cydweithio â byrddau iechyd i wella gofal endometriosis. Yn ôl y Gweinidog, mae hyn yn cynnwys "...recriwtio rhwydwaith o nyrsys endometriosis arbenigol ym mhob bwrdd iechyd. Mae hyn er mwyn datblygu llwybrau cenedlaethol i helpu i leihau’r amser y mae’n cymryd i roi diagnosis ledled Cymru. Mae hyn yn fodd o sicrhau unwaith eto bod menywod sydd â’r cyflwr yn cael eu cefnogi’n llawn wrth iddynt gael triniaethau, neu aros amdanynt."

3.     Camau gweithredu gan Senedd Cymru

Yn ystod y Bumed Senedd, cafwyd dadl ar endometriosis yn y Senedd, dan arweiniad Jenny Rathbone AS, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Iechyd Menywod ar y pryd. Yn ei ymateb i’r ddadl (a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2020), dywedodd Vaughan Gethin AS, y cyn-Weinidog Iechyd,  nad oedd gwasanaethau yng Nghymru yn dderbyniol, a gwnaeth ymrwymiad i ysgrifennu at bob bwrdd iechyd er mwyn gofyn am sicrwydd y byddai gofal endometriosis yn cael ei flaenoriaethu.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.